‘Crwydryn’ yn cipio Cadair Talgarreg

Bardd buddugol prif gystadleuaeth Eisteddfod Capel y Fadfa

gan Robyn Tomos

Meirion Jones, Myfanwy Roberts ac Anwen Jones Llun: Morgan Reeves

Alltud o Geredigion enillodd y Gadair yn Eisteddfod Capel y Fadfa, Talgarreg. Yn dilyn y feirniadaeth gan Jane Altham Watkins gwahoddwyd y bardd buddugol ‘Crwydryn’ i ddangos ei hun. Cododd honno ar ei thraed a’i chyrchu i’r llwyfan. Yna, datgelwyd taw’r enillydd oedd Myfanwy Roberts o Gnwch Coch ond ei bod hi erbyn hyn yn byw yn Llanrwst. Daeth yn fuddugol o blith wyth o gystadleuwyr a fu’n ymateb i’r her o gyfansoddi emyn cyfoes ar y testun ‘Llwybrau’. Yn ystod y seremoni gadeirio, cyflwynwyd cadair fechan a gwobr ariannol gan y rhoddwyr Meirion ac Anwen Jones Abernac, Lledrod.

Rhai misoedd yn ôl penderfynodd y bardd, a fu’n athrawes gynradd yn Nyffryn Conwy am bron i 40 mlynedd, y dylai gefnogi ein heisteddfodau bach. Dyma’r ail gadair mae hi wedi ennill.

Wedi bwlch o bedair blynedd yn sgil y pandemig, o’r diwedd cynhaliwyd Eisteddfod yn Nhalgarreg ar 6 Mai. Ac i goroni’r cyfan roedd teilyngdod yn y brif gystadleuaeth a digwyddodd y seremoni gadeirio.