Cyngor Cymuned Llanllwchaearn yn dathlu!!!

Grant cronfa gymunedol.

Sioned Davies
gan Sioned Davies

Mae Cyngor Cymuned Llanllwchaearn yn dathlu ar ôl cael £58,693 o arian y Loteri Genedlaethol.

Mae Ardal Chwarae Bro Hafan wedi’i lleoli yn Cross Inn, Llandysul, Ceredigion yn dathlu heddiw ar ôl derbyn £58,693 mewn cyllid gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, sef y cyllidwr mwyaf o weithgarwch cymunedol yn y Deyrnas Unedig.

Bydd Cyngor Cymuned Llanllwchaearn yn defnyddio eu harian i greu parc newydd i’r gymuned a fydd yn hygyrch i bawb. Ein gobaith yw y bydd yr ardal chwarae newydd yn cynnig amgylchedd chwarae diogel a phleserus i blant.