Pobl Ifanc ‘Cwilt 360’ yn ychwanegu at lwyddiant Ceredigion yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd

Llwyddiant ein plant a phobl ifanc yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Sir Gar

Y Gambo
gan Y Gambo
Neli Evans, Henbant

Neli Evans, Henbant (enillydd Unawd Cerdd Dant)

Rhaid ymhyfrydu yn ein pobl ifanc a’u hyfforddwyr yn dilyn cymaint o lwyddiant ar ddechrau wythnos yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Sir Gâr.  Llongyfarchiadau mawr iddyn nhw’i gyd.    Dyma rai canlyniadau: –

Unawd Cerdd Dant Bl2 ac Iau                     Cyntaf        Neli Evans, Henbant   (hyfforddwyd gan Catrin Evans, Henbant a Helen Williams, Rhydyfelin)

Parti Unsain i Ysgolion 50 a llai mewn nifer   Cyntaf        Ysgol Talgarreg  (hyfforddwyd gan Bethan Jenkins, Pennaeth, a Catrin Evans, Henbant)

Cân Actol (Ysgolion llai na 100 o blant)        Trydydd        Ysgol Talgarreg (hyfforddwyd gan Bethan Jenkins, Pennaeth, a Catrin Evans, Henbant)

Unawd Piano Bl. 7, 8 a 9                             Cyntaf          Claire Lloyd, Brynwerydd  (hyfforddwyd gan Jenny Frost)

Unawd Telyn Bl. 7, 8 a 9                              Cyntaf          Claire Lloyd, Brynwerydd (hyfforddwyd gan Meinir Heulyn, Synod Parc)

Y Fedal Ddrama                                          Cyntaf          Elain Roberts, Pentre’r Bryn (gweler newyddion blaenorol)

 

Da iawn hefyd i’r canlynol fu’n perfformio ar y llwyfan cenedlaethol:-

Efan Evans, Henbant  (Cerdd Dant Bl 5 a 6)  – hyfforddwyd gan Catrin Evans, Henbant a Helen Williams, Rhydyfelin

Martha Silvestri Jones  (Llefaru 5 a 6 )  –  hyfforddwyd gan Nerys Jones, Fron, Llanarth

Parti Llefaru  Adran Bentre’ Talgarreg – hyfforddwyd gan Nerys Jones, Fron, Llanarth gyda chymorth Teleri Morris-Thomas

 

Llongyfarchiadau i’r canlynol am eu llwyddiant oddi ar y llwyfan:

Alys Evans, Dyffryn, ar ddod yn gyntaf am ei darn o farddoniaeth (Bl 8)

Elen Vobe, Llanarth, ar ddod yn gyntaf yng nghystadleuaeth Cogurdd (Bl 4, 5 a 6)

Efan Evans, Henbant, ar ddod yn drydydd yn y gystadleuaeth Dylunio Crys T (Bl 5 a 6)

 

Ar ddiwedd yr wythnos o gystadlu, Ceredigion oedd ar frig y tabl gyda chyfanswm o 152 o fedalau.