Plannu Blodau Haul

Plant Bro Siôn Cwilt yn dysgu sut mae plannu blodau haul!

Rydym ni wedi bod yn dysgu sut i blannu blodau haul ar gyfer cystadleuaeth.

Roedd pawb yn yr ysgol wedi cymryd rhan a mwynhau!

Cam 1: Llenwi’r pot gyda ‘compost’, yna gosod yr hedyn yn y ‘compost’.

Cam 2 : Gosodwch y pot o dan yr haul. Cofiwch roi dŵr ar y blodyn ddwywaith y dydd!

Cam 3: Rhoi’r brigyn yn y pot i helpu’r blodyn aros yn syth.

Diolch i Athrawon sydd wedi plannu’r blodau haul.