Ben Lake AS yn ymweld â phrosiectau a ariannwyd gan y Loteri Genedlaethol yng Nghei Newydd

Aelod Seneddol Ceredigion, Ben Lake yn ymweld â Neuadd Goffa Cei Newydd a Maes Chwarae Bro Hafan

gan Marged Elin Roberts
Maes Chwarae Bro Hafan

Ben Lake MP, Rachel Richards, Swyddog Ariannu Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, Sioned Davies, Clerc Cyngor Cymunedol Llanllwchaearn a Silyn Roberts, Cynghorydd a Cadeirydd Cyngor Cymunedol Llanllwchaearn

Neuadd Goffa Cei Newydd

Ben Lake MP, Rachel Richards, Swyddog Ariannu Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol a gwirfoddolwyr Neuadd Goffa Cei Newydd.

Yn ddiweddar dyfarnwyd grant gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i Neuadd Goffa Cei Newydd i gyflogi gweithiwr i ddatblygu gwasanaethau a gweithgareddau yn y gymuned. Gan ddefnyddio grant o dros £144,000 bydd y neuadd yn cynnig gweithgareddau i feithrin gwytnwch, lleihau arwahanrwydd cymdeithasol ac yn mynd ati i ehangu’r cymorth sydd ar gael i’r rhai sy’n ei chael hi’n anodd cael mynediad at wasanaethau cyhoeddus.

Dywedodd Cadeirydd Ymddiriedolwyr y Neuadd Goffa, Julian Evans, wrthym:

“Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae’r grant hwn yn golygu y gallwn adeiladu ar y gweithgareddau amrywiol sydd eisoes yn cael eu cynnal yn y Neuadd, o ddosbarthiadau ymarfer corff i’r farchnad wythnosol. Byddwn hefyd yn gallu cynnig gofod cynnes i bawb yn ystod misoedd oer y gaeaf ac mae gennym raglen gyffrous o sesiynau rhannu gwybodaeth ar y gweill a fydd yn cynnwys ymwybyddiaeth ynni, sgiliau digidol a chymorth cyflogaeth.”

Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, dyfarnwyd grant o £58,693 hefyd i Faes Chwarae Bro Hafan, sydd oddeutu 10 munud i ffwrdd lawr y lôn, yn Llanllwchaearn. Bydd eu grant Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn cael ei ddefnyddio i wella lles corfforol a meddyliol plant o bob oed, yn ogystal â chreu ardal ar gyfer y gymuned ehangach i gyfarfod a chymdeithasu. Dros y flwyddyn nesaf bydd offer chwarae yn cael ei hadnewyddu a bydd seddi newydd yn cael eu rhoi mewn lle.

Dywedodd Sioned Davies, Clerc, Cadeirydd Cyngor Cymunedol Llanllwchaearn,

wrthym:

“Bydd y grant rydym wedi’i dderbyn gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn ein galluogi ni i ddarparu amgylchedd chwarae diogel a phleserus i blant yn ein cymuned. Bydd hyn yn gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau pobol yn yr ardal.”

Dywedodd Ben Lake AS Ceredigion wrthym:

“Rwyf wedi gwirioni, diolch i haelioni Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol a gwaith caled llawer o bobl leol sy’n ymwneud â chyflawni’r prosiectau hyn, ein bod yn gweld buddsoddiad sylweddol yn mynd i achosion gwerth chweil yng Nghei Newydd a Llanllwchaearn. Bydd y buddsoddiad yn Neuadd Goffa Cei Newydd yn sicrhau cadwraeth y neuadd, gan sicrhau bod y cyfleuster yn cael ei gadw a’i ddefnyddio am genedlaethau pellach, a bydd maes chwarae Bro Hafan yn darparu man diogel i’n plant chwarae a chymdeithasu.”

Dywedodd John Rose, Cyfarwyddwr Cymru yng Nghronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol: “Mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn codi dros £30 miliwn bob wythnos at achosion da ledled y DU gan ein galluogi i roi grantiau gwerth cyfanswm o fwy na £4.3 miliwn yng Nghymru y mis hwn yn unig. Rydym yn falch i fod y cyllidwr mwyaf ar gyfer gweithgarwch cymunedol yng Nghymru, gan gefnogi syniadau prosiectau gwych fel Neuadd Goffa Cei Newydd a Maes Chwarae Bro Hafan.

DIWEDD

Gwybodaeth Bellach: 

Marged Elin Roberts – Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol  
Swyddfa’r Wasg: 029 2067 8236 

Llinell ymholiadau’r cyhoedd: 0300 123 0735
Cyfnewid testun: 18001 + 0300 123 0735

Gweler manylion llawn am raglenni a grantiau Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ar: tnlcommunityfund.org.uk

Dilynwch Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol Cymru ar Twitter:
@TNLComFundWales

Dewch o hyd i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ar Facebook: Facebook.com/TNLCommunityFundWales

 

Lluniau

Lluniau ©

Ben Lake MP, Rachel Richards, Swyddog Ariannu Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, Sioned Davies, Clerc Cyngor Cymunedol Llanllwchaearn a Silyn Roberts, Cynghorydd a Cadeirydd Cyngor Cymunedol Llanllwchaearn

Ben Lake MP, Rachel Richards, Swyddog Ariannu Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol a gwirfoddolwyr Neuadd Goffa Cei Newydd.

Ynghylch Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol

Ni yw’r cyllidwr cymunedol anstatudol mwyaf yn y DU – cymuned sydd wrth wraidd ein pwrpas, ein gweledigaeth a’n henw.

Rydym ni’n cefnogi gweithgareddau sy’n creu cymunedau gwydn sy’n fwy cynhwysol ac amgylcheddol gynaliadwy ac a fydd yn cryfhau cymdeithas ac yn gwella bywydau ledled y DU.

Rydym yn falch o ddyfarnu arian a godwyd gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol i gymunedau ledled Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, ac i weithio’n agos gyda’r Llywodraeth i ddosbarthu grantiau a chyllid hanfodol o raglenni a mentrau allweddol y Llywodraeth.

Yn ogystal ag ymateb i’r hyn y mae cymunedau yn ei ddweud wrthym sy’n bwysig iddynt, mae ein cyllid yn canolbwyntio ar bedwar nod allweddol, gan gefnogi cymunedau i:

  1. Ddod ynghyd
  2. Bod yn amgylcheddol gynaliadwy
  3. Helpu plant a phobl ifanc i ffynnu
  4. Galluogi pobl i fyw bywydau mwy iach.

Diolch i gefnogaeth chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, rydym yn dosbarthu tua £500 miliwn y flwyddyn trwy 10,000+ o grantiau ac yn bwriadu buddsoddi dros £4 biliwn o gyllid mewn cymunedau erbyn 2030. Mae’n fraint i ni allu gweithio gyda’r grwpiau lleol lleiaf hyd at elusennau DU-gyfan, gan alluogi pobl a chymunedau i ddod â’u huchelgeisiau’n fyw.

Mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn codi dros £30 miliwn bob wythnos at achosion da ledled y DU. Ers i’r Loteri Genedlaethol ddechrau yn 1994, mae £47 biliwn wedi cael ei godi ac mae mwy na 670,000 o grantiau unigol wedi cael eu rhoi ledled y DU – sy’n gyfwerth â thua 240 o grantiau Loteri Genedlaethol ym mhob ardal cod post yn y DU.