O steddfod i steddfod!

Beth am fynd i Steddfod Llanarth leni?

Nerys Jones
gan Nerys Jones

Odych chi wedi mwynhau y Steddfod Genedlaethol?

Wedi codi whant cystadlu eich hunan?

Wel os do fe, beth am gystadlu yn y llu eisteddfode lleol sy ar hyd a lled y wlad?

Beth am gystadlu yn Steddfod Llanarth, a fydd yn cymryd lle ar nos Wener Hydref 13eg leni. Bydd plant ysgol Llanarth yn dangos eu doniau yn y pnawn gyda’r adran agored yn dechrau am 5.30. Mae yna gystadlaethau llwyfan arferol i blant a phobol ifanc gyda gwobrau ariannol da.

Ac os ydych am rywbeth i neud yr haf yma, beth am gystadlu yn yr adran lenyddiaeth?  Dyma’r testunau i chi –

1. Gwobr Llenyddiaeth yr Ifanc – dan 25 oed

Hunan ddewisiad. Cyflwyno unrhyw un darn o’r ffurfiau llenyddol canlynol – stori fer, ymson, cerdd neu bortread. Y wobr yw cadair fechan a £25

2. Cerdd ddigri – Cyfaddefiad

3. Limrig yn cynnwys y frawddeg “Mi godais un noson o’r gwely..”

4. Brawddeg – Derwen Gam

Gwobrau yw £5, £3 a £2

Cyfansoddiadau a ffugenwau i law yr ysgrifennydd erbyn dydd Sadwrn Medi 30ain. catrinbj1@gmail.com

Catrin Bellamy Jones, Pantyrhendy, Llanarth, Ceredigion SA47 0QS

Edrychwch allan am y rhaglenni yn y siopau Cymraeg lleol neu ar wefan Cymdeithas Eisteddfodau Cymru