Ceri’n Taro Tant

Telynor o’r Cei yn serennu ym Moduan

Gareth Ioan
gan Gareth Ioan

Braf oedd gweld yr ymryddawn Ceri Jones yn canu ei delyn deires ym Moduan.

Roedd Ceri yn rhan o griw dethol oedd yn cydchwarae â Llio Rhydderch, brenhines y delyn deires Gymreig, yn y Tŷ Gwerin ar ddydd Iau yr Eisteddfod Genedlaethol.

Braf gweld talentau lleol yn disgleirio ar ein llwyfannau cenedlaethol. Gwych iawn Ceri!