Twmpath Dawns Gwyl Foel Gilie

Nos lun y 9fed o Hydref

gan Ela Harries

Cafwyd twmpath bywiog yn ystod Gwyl Foel Gilie. Roedd yn noson llawn hwyl a chymdeithasu dan nawdd C.Ff.I. Caerwedros a chwmni C.Ff.I Troedyraur yn Neuadd Caerwedros, gyda Gareth Ioan yn galw. Roedd yn noson wych a phawb wedi joio mas draw. Diolch yn fawr i’r band byw am ein diddanu ni gyd – Elsa, Jason a Nettie. Noson lwyddiannus iawn eto eleni.