Ysgogwyd y merched i gasglu enwau gan y golygfeydd dychrynllyd sy’n ymddangos yn ddyddiol ar y sgrin deledu, cyfrifiadur a ffôn.
“Mae dioddefaint merched a phlant – a phlant ifanc sydd i’w cyfrif am y rhan helaethaf o’r marwolaethau – yn peri loes ddychrynllyd,” meddai un o’r trefnwyr Enfys Llwyd. “Ac ni ddaw byd heb ryfel heb i ferched, gyda’i gilydd, fynnu hynny.
“Mae merched Talgarreg yn falch o’r cyfle i arwyddo deiseb dros alw am gadoediad rhwng Israel a Gaza-Palesteina.”
Ysbrydolwyd y merched i weithredu wrth ddarllen llofnodion 81 o ferched y pentref arwyddodd ddeiseb Heddwch Menywod Cymru dros ganrif yn ôl.
Nôl yn 1923 cyflwynwyd yr apêl a arwyddwyd gan bron i 400,000 o fenywod Cymru i fenywod America gan ymbil arnyn nhw i bwyso ar lywodraeth yr Unol Daleithiau i ymuno â Chynghrair y Cenhedloedd. Cafodd y ddeiseb wreiddiol, sydd saith milltir o hyd, ei darganfod mewn cist yn amgueddfa’r Smithsonian, Washington DC yn 2018 ac erbyn hyn mae’r gist a’r ddeiseb wedi dychwelyd i Gymru ac mae wedi cael catref gofalus y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth – https://www.llyfrgell.cymru/deisebheddwch
Bob yn dipyn mae’r llofnodion yn cael eu rhoi ar y we ac mae llofnodion Talgarreg ymhlith y cyntaf i’w gweld. Ac mae llawer o ddisgynyddion y merched arwyddodd o blaid heddwch yn 1923 yn dal i fyw yn pentref.
Ymhlith y llofnodion sydd arni mae enwau Mary Dosia Jones a’r llenor gwerin Ruth Jones, sef Ruth Mynachlog – mam a mam-gu’r digrifwr Eirwyn Pontshân.
Mae deiseb Talgarreg heddiw yn galw ar lywodraeth Cymru ac ar lywodraeth y Deyrnas Unedig i bwyso am gadoediad rhwng Israel a Gaza-Palesteina yn syth.
Am fanylion pellach cysylltwch â Siân Wyn Siencyn ar 01545 590629 neu siencyn.tomos@btinternet.com