Dechrau Caru, Dechrau Cofio

Dathlu Dwynwen yng nghwmni Ryland Teifi

gan Robyn Tomos
Ryland Teifi

Ryland Teifi

Bydd dathlu nawdd sant y cariadon yn dwyn “atgofion melys yn llawn alawon,

storïau a chwerthin” i’r cof, yn ôl y perfformiwr amryddawn Ryland Teifi. Ac yntau

wedi hen ymgartrefu yn yr Iwerddon erbyn hyn, bydd Ryland yn dychwelyd i’w

gynefin yn Ffostrasol i gynnal ‘Noson Dathlu Santes Dwynwen’ yn neuadd y

pentref.

 

“Dwi ddim yn cofio’r tro ola’ i mi gamu ar y llwyfan yno ond mae’r atgofion

serch hynny’n llu – o sioeau Nadolig Ysgol Gynradd Capel Cynon i nosweithiau

cawl Dydd Gŵyl Dewi,” meddai’r actor sydd hefyd yn cyflwyno’r rhaglen deledu

‘Dechrau Canu Dechrau Canmol’. Ond yr atgof mwyaf sydd ganddo o’r neuadd

yw’r noson anfarwol honno yn y 1980au pan gynhaliwyd yr Eisteddfod Werin yno.

“Y Clwb Gwerin oedd yn gyfrifol am yr achlysur ac unigolion fel dad, Emyr Llew,

Elfed Lewys a Dai Erwlon oedd y tu ôl i’r cwbl. Dwi ddim yn credu i Ffostrasol weld

y fath noson gan fod pawb yn y pentre’ bron yn cymryd rhan.”

 

Ac mae’n siŵr y bydd cyfoedion Ryland a aeth i Ysgol Dyffryn Teifi, Llandysul yn

dal i’w gyfarch fel ‘Siop’ gan ddilyn yr arfer o gyfeirio at bobl yn ôl enwau eu

cartrefi (arferai ei rieni Garnon a Linda Davies gadw siop y pentref). Gallwch

dynnu’r bachgen o Ffostrasol ond allwch chi ddim tynnu Ffostrasol o’r

bachgen, medden nhw.

 

Ond er yr agosatrwydd, bydd dod adref yn brofiad chwerw-felys iddo hefyd,

meddai, “Mae dychwelyd i berfformio yn neuadd Ffostrasol yn bleser ac yn

anrhydedd ond mae’n orchwyl emosiynol hefyd. Doedd dim llais cryfach yn y

pentre’ nag un dad ac fe fydd ei absenoldeb e’ a fy chwaer Tresi yn amlwg ac yn

anodd,” meddai am ei anwyliaid a fu farw o fewn wyth mis i’w gilydd.

“Mae’r pentre’ wedi colli sawl cymeriad dros y blynyddoedd ac rydych chi’n gweld

eisiau’r rheiny’n fwy pan mae pawb yn ymgynnull mewn lle mor gyfarwydd â’r

neuadd. Allwn ni ddim  dianc rhag y lleisiau mawr sy’ yn y gwynt o gwmpas

Ffostrasol ond rwy’n freintiedig ‘mod i’n gallu rhannu ambell i stori amdanyn nhw

yn y sioe. Rwy’n edrych ‘mlaen at ddod gartre’.”

 

Cynhelir Noson Dathlu Santes Dwynwen, dan nawdd Ffrindiau Ffostrasol a’r Cylch,

yn Neuadd Ffostrasol ar nos Sadwrn, 27 Ionawr 2024. Tocynnau a manylion

pellach: Owenna Davies: 01239 851402