Ein Mam Ni Oll!

Cyflwynodd C.Ff.I Caerwedros ddrama ar lefel sir gan bach o bawb gyda’r cynhyrchwyr, Dai Gealy.

Elliw Grug Davies
gan Elliw Grug Davies

Roedd hi’n fis Ionawr a chystadleuaeth y ddrama ar y gorwel. Roedd pawb yn ysu i ddechrau ac ar ôl trafod a chynnig syniadau, cafodd y ddrama ‘Ein Mam Ni Oll!’ ei hysgrifennu. Drama ddoniol llawn dwlu ydy hi ac yn anffodus i ambell un, mae’r gofid yn mynd yn ormod! Wedi wythnosau o ymarfer, chwerthin, mwynhau ac yfed sawl paned o de, roedd y ddrama yn barod i’w pherfformio.

Perfformiodd Caerwedros y ddrama yn Theatr Felinfach ar nos Fercher y 14eg o Chwefror. Rhaid dweud, roedd y gefnogaeth yn anhygoel a’r criw wedi mwynhau perfformio eu holl waith caled.

Llongyfarchiadau i Eos Dafydd ar ennill yr ail wobr am yr actores orau dan 16oed. Hoffai’r criw ddiolch yn fawr i bawb a roddodd eu hamser i’n helpu mewn unrhyw ffordd i’r ddrama.

Os ydych chi’n teimlo eich bod wedi colli’r holl fwrlwm a’r chwerthin, peidiwch chi â phoeni, bydd y clwb yn perfformio’r ddrama yn Neuadd Caerwedros ar y 29ain o Chwefror yng nghwmni Clwb Ffermwyr Ifanc Llangadog gyda “Oli”, yn ogystal â chwmni Ysgol Bro Siôn Cwilt a fydd yn perfformio cwpwl o eitemau. Bydd y noson yn dechrau yn brydlon am 19:30y.h. Diolch yn fawr iawn i bawb unwaith eto am eu cefnogaeth ac fe welwn ni chi gyd yng Nghaerwedros cyn hir am fwy o chwerthin a mwynhau!