Cawl a Chân i ddathlu ein nawddsant.

Bu Ysgol Gynradd Llanarth yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi mewn steil!

gan Manon Wright
Yr Ysgubor yn llawn ar gyfer noson hwyliog!
Diolch i Hufenfa de Arfon am y caws blasus.
Diolch i Dylan Davies am gynnal yr ocsiwn.

Cynhaliodd Ysgol Gynradd Llanarth noson arbennig o Gawl a Chân i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi yn ‘Ysgubor’, Fferm Bargoed, Llwyncelyn ar y 1af o Fawrth. Agorwyd y noson drwy gael cawl blasus yn rhoddedig gan Ysgubor a chaws gan Hufenfa De Arfon. Hoffwn ddiolch iddynt am eu haelioni. Llywydd y noson oedd Mr Hywel Thomas, a fu’n bennaeth yr ysgol am ddeunaw o flynyddoedd. Diolch yn fawr iddo am ei gyfraniad hael tuag at y coffrau.

Wedi wythnosau o ymarfer roedd y disgyblion yn barod i ddiddanu’r gynulleidfa gyda pherfformiadau gan gynnwys caneuon fel ‘Mis Mawrth unwaith eto’, ‘Daw Hyfryd Fis’, ‘Pawb i ganu’n un’ a ‘Dwi’n Gymro, dwi’n Gymraes’. Yn dilyn sesiwn greadigol gyda Theatr Felinfach, aethom ati i berfformio’r ddawns werin ‘Jac Do’ ar y noson hefyd. Cafwyd deuawd fendigedig gan Gwenno a Jessica, a bu Gwenno’n llefaru’r darn y cafodd y wobr gyntaf yn Eisteddfod yr Urdd, Cylch Aeron yn ddiweddar. Dymuniadau da iddi yn yr Eisteddfod Rhanbarth cyn hir. Hoffwn ddiolch i staff yr ysgol am hyfforddi’r disgyblion a sicrhau bod y gynulleidfa yn cael gwledd.

Hoffwn ddiolch i rieni, ffrindiau ac i fusnesau lleol am roi gwobrau raffl ac eitemau bendigedig ar gyfer ein hocsiwn. Diolch i Mr Dylan Davies am gynnal ocsiwn lewyrchus iawn, ac i bawb a brynodd eitemau. Roeddech yn hael iawn.

I glou’r noson cawsom ein diddanu gan Dafydd Pantrod a’i fand. Bu’n noson hwyliog iawn gyda digon o ganu, dawnsio a chwerthin. Roedd y plant (a’r oedolion!) wrth eu boddau.

Ni fyddai’r noson wedi bod yn bosibl heb gefnogaeth ein noddwyr. Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i’n prif noddwyr. Yn gyntaf, ‘Ysgubor’, Fferm Bargoed, am adael i’r ysgol gynnal ein digwyddiad yno am ddim, ac am gyfrannu’r cawl blasus. Yn ail, Lee Storr Commercials, HGV Inspections and Repairs am rodd hael iawn tuag at y noson. Yn ogystal hoffwn ddiolch i’n noddwyr eraill sef:-

–      JDSD Evans LTD

–      Pantcefen Luxury Glamping

–      Clic Productions

–      Melin Wern

–      Morgan & Davies

–      Hufenfa De Arfon

–      Dylan Jones

–      Actifiti

–      Ceir y Cardi

–      Arjay Factors

–      Aeron Vets

–      MJE, EB a DM Jones, Rhyd y Gofaint

–      Alan ac Annwen Walker

–      Euros a Meinir Lewis

–      Owen a Manon Wright

Roedd y noson yn lwyddiant ysgubol, gyda’r noson yn codi £2,933.50 tuag at goffrau Pwyllgor Ffrindiau Ysgol Llanarth. Bydd yr arian yma’n cael ei ddefnyddio er mwyn darparu profiadau cyfoethog i ddisgyblion yr ysgol.

Hoffwn ddiolch i bwyllgor ffrindiau’r ysgol ac i bawb a roddodd eu hamser i’n helpu mewn unrhyw ffordd tuag at y noson. Yn ogystal, diolch i’r gynulleidfa a ddaeth i ymuno â ni yn ein dathliadau.