Maethu a mwy yng Ngheredigion

A ydych chi wedi ystyried dod yn Ofalwr Maeth? Dyma stori Jeannie ac Ian.

A ydych chi wedi ystyried dod yn Ofalwr Maeth?

Fel rhan o’r Bythefnos Gofal Maeth, a gynhelir rhwng 15 a 28 Mai, bydd cynrychiolwyr o Gyngor Sir Ceredigion a Maethu Cymru wrth law i gynnig cyngor a gwybodaeth i drigolion.

Bydd sesiynau galw heibio yn cael eu cynnal yn Tesco Aberystwyth ddydd Gwener 19 Mai 2023 a dydd Gwener 26 Mai 2023 rhwng 11:00 a 15:00. Galwch heibio i ddysgu mwy am faethu a darganfod pa help a chymorth sydd ar gael.

Stori Jeannie ac Ian

Daeth Jeannie ac Ian o Geredigion yn ofalwyr maeth deuddeg mlynedd yn ôl. Dywedodd Jeannie: “Cyn i mi ymddeol, roeddwn yn gweithio mewn cartref gofal ac roedd un o’r gofalwyr eraill yn y fan honno wedi bod yn ofalwr maeth ers blynyddoedd. Roedd hyn wastad yn rhywbeth yr oeddwn wedi’i ystyried.

Un noson, roeddem yn gwylio’r teledu a’r hyn a ymddangosodd ar y sgrin oedd hysbyseb am ofalwyr maeth. Edrychodd y ddau ohonom yn llygaid ein gilydd ac yn yr ennyd honno, roeddem yn gwybod ein bod am faethu. Y cam cyntaf oedd cysylltu â’n Hawdurdod Lleol ac ar ôl hynny, aethom ar gwrs Sgiliau Maethu gan ymrwymo wedyn i fod yn ofalwyr maeth. Roeddem yn awr wedi dechrau ar ein siwrne a’r holl gamau a oedd yn gysylltiedig â chwblhau Ffurflen F. Cymerodd y broses hon sawl mis ond serch hynny, roedd yn hynod o ddiddorol. Archwiliwyd cefndiroedd a rhwydwaith cymorth y ddau ohonom ac ystyriwyd ein rhesymau dros faethu.

Mae gennyf dair merch sydd bellach yn magu eu plant eu hunain ac mae gan fy ngŵr ddau fab sydd hefyd â phlant. Roeddem ein dau am barhau i ofalu am blant a phobl ifanc ac roeddem yn teimlo bod gennym lawer o amser a chariad i’w rhoi gan ein bod ni bellach wedi ymddeol. Cyflwynwyd ein cais i fod yn ofalwyr maeth gerbron y Panel a chawsom ein derbyn. Roedd modd i ni’n awr ofalu am blant a phobl ifanc rhwng 5 a 18 oed a daeth plentyn i fyw gyda ni o fewn yr wythnos! Nid ydym wedi edrych yn ôl ac roedd hynny 12 mlynedd yn ôl.

Rydym yn gweithio’n dda fel tîm gan fod gennym wahanol sgiliau a chryfderau ac rydym wastad wedi derbyn cefnogaeth arbennig gan y Gweithiwr Cymdeithasol sy’n ein goruchwylio. Rydym hefyd wedi mwynhau’r hyfforddiant parhaus sy’n angenrheidiol i ofalwyr maeth. Wrth reswm, rydym wedi wynebu rhai cyfnodau anodd ac mae ymddygiad rhai o’r plant wedi bod yn ddigon heriol ond gyda’n gilydd a chyda chymorth y Gweithiwr Cymdeithasol sy’n ein goruchwylio, rydym wedi goroesi’r cyfan.

Rydym wedi cael nifer o brofiadau hyfryd a gwerthfawr sydd wedi aros yn y cof ac mae’n rhaid dweud mai’r profiadau hyn sy’n gwneud y cyfan yn werth chweil. Os ydych chi wedi ystyried maethu ond nad ydych wedi cymryd y cam cyntaf, peidiwch ag oedi, ewch amdani.”

Y cysylltiad lleol

Ychwanegodd y Cynghorydd Alun Williams, yr Aelod Cabinet ar gyfer Llesiant Gydol Oes:

“Rydym yn ddiolchgar i gynifer o ofalwyr maeth fel Jeannie ac Ian sy’n gwneud cymaint o wahaniaeth i fywydau plant maeth. Gall aros yn lleol olygu’r byd i blant maeth. Dyna pam y byddem yn annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn dod yn ofalwr maeth i gysylltu â’r tîm maethu yng Nghyngor Sir Ceredigion a all roi help, cyngor ac ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gennych. Fel gofalwr maeth, gallwch helpu plentyn i deimlo’n ddiogel, wedi’i gefnogi, ac yn hapus.”

I ddysgu mwy am sut i ddod yn ofalwr maeth yng Nghymru, ewch i: maethucymru.llyw.cymru/ neu cysylltwch â thîm Maethu Ceredigion ar 01545 574000 neu clic@ceredigion.gov.uk