Amddiffyn! Pasio! Saethu!

Merched Ysgol Bro Siôn Cwilt yn cymryd rhan yng nghystadleuaeth pêl-rwyd yr Urdd

gan Donna Wyn Thomas

Cawsom ddiwrnod o amddiffyn, pasio a saethu wrth i ni gynrychioli’r ysgol yn nhwrnamaint pêl-rwyd yr Urdd yn Llangrannog. Diolch o galon i Miss Gwawr a Miss Evans am ein hyfforddi. Roedd pawb wedi gwneud yn wych gan wneud eu gorau glas a gweithio fel tîm. Da iawn ferched!

gan Beca