Pencampwyr Pêl-droed

Ysgol Talgarreg wedi ennill twrnament yr Urdd

gan Cerys Lloyd

Canlyniad rhagorol i dîm 5-pob-ochr Bl. 5 a 6 Ysgol Talgarreg, Ceredigion yn nhwrnament cenedlaethol Urdd Gobaith Cymru yn Aberystwyth heddiw.

Mi wnaeth y tîm yn rhagorol i ennill grŵp B gyda chanlyniadau arbennig o 3-0, 7-3 a 7-0. Ymlaen wedyn yn erbyn Tudweilog yn y rownd gyn derfynol i ennill ar ôl gôl aur yn yr amser ychwanegol.

Goliau campus oedd gan Talgarreg i ennill y gêm derfynol 3-0 yn erbyn Bro Hedd Wyn. Llongyfarchiadau aruthrol iddynt ar ddod yn bencampwyr y gystadleuaeth.

Eisteddfod Capel y Fadfa

13:30, 4 Mai (Oedolion £4 plant Dan 16 oed£1)

Eisteddfod Gadeiriol Llandudoch

11:30, 18 Mai (£2.00 i'r eisteddfod leol, £3.00 gweddill y dydd Plant oed cynradd am ddim)

Cylchlythyr