Diolch i Gyngor Cymuned Llanllwchaearn

Marciau cwrt pêl-rwyd o ganlyniad i rodd gan Gyngor Cymuned Llanllwchaearn

gan Donna Wyn Thomas

Hoffwn ar ran Ysgol Bro Sion Cwilt, ddiolch o waelod calon i Gyngor Cymuned Llanllwchaearn am eich rhodd hael. O ganlyniad, mae ein tîm pêl-rwyd a Miss Gwawr (sy’n hyfforddi’r tîm) yn medru ymarfer gyda chwrt pêl-rwyd go-iawn wedi’i farcio allan ar fuarth yr ysgol.