Ysgol Talgarreg ar y map eto!

Twrnament pêl-droed Llanfihangel-ar-arth

Teleri Morris-Thomas
gan Teleri Morris-Thomas
IMG-20230613-WA0019

Tîm 1 a 2 Talgarreg

IMG-20230613-WA0018

Tomos Chwaraewr y twrnament

IMG-20230613-WA0020

Pencampwyr sef Tîm 1

Talgarreg yn bencampwyr twrnament pêl-droed hŷn Llanfihangel-ar-arth. 🎉🎉🎉

Llongyfarchiadau i ddau dîm Talgarreg, bl 4 i fyny, ar wneud yn wych yn nhwrnament pêl-droed Llanfihangel-ar-arth nos Fawrth 13eg.
Canlyniadau arbennig:
Tîm 1: 3-0, 3-0 a 4-0, ennill grŵp 1.
Tîm 2: 2-0, 0-0 a 3-0 ac yn colli allan o ennill y grŵp ar wahaniaeth goliau.
Aeth tîm 1 ymlaen i’r gemau cyn derfynol yn erbyn Llanpumsaint. Roedd yn gêm llawn tensiwn ac ennill oedd y canlyniad ar ôl gorfod cicio o’r smotyn. Llanllwni 3 oedd yn eu herbyn yn y gêm derfynol a chafwyd chwarae brwd i sicrhau buddugoliaeth o 2-0.
Llongyfarchiadau i holl chwaraewyr Talgarreg ac yn enwedig i Tomos Humphries ar ennill chwaraewr y twrnament.