Tro’r pêl-droedwyr iau

Twrnament iau Llanfihangel-ar-arth

Teleri Morris-Thomas
gan Teleri Morris-Thomas
IMG_20230614_180600

Timoedd Talgarreg 1 a 2

IMG_20230614_193831

Non Thomas chwaraewraig y twrnament

IMG_20230614_182122

Talgarreg 2

IMG_20230614_181410

Talgarreg 1

Braf gweld 2 dîm o Ysgol Talgarreg, disgyblion dosbarth derbyn i flwyddyn 3 yn cynrychioli’r ysgol yn nhwrnament Llanfihangel-ar-arth, nos Fercher 14eg.
Gwnaeth tîm 1 golli 2 gêm a chael un gêm gyfartal yn erbyn timoedd cryf.
Gwnaeth tîm 2 ennill 2 a cholli 1 gêm. Llwyddon nhw i fynd ymlaen i’r gemau cyn-derfynol. Yn anffodus, colli oedd yr hanes.
Llongyfarchiadau i’r holl chwaraewyr ac yn enwedig i Non Thomas a enillodd chwaraewraig y twrnament.

Braf gweld 26 o ddisgyblion yn Talgarreg yn cynrychioli’r ysgol dros y ddwy noson.