DEWI yn cipio’r gwpan!

Llys Dewi yn fuddugol ym Mabolgampau Ysgol Bro Siôn Cwilt

gan Donna Wyn Thomas

Er gwaetha’r tywydd crasboeth, cawsom fore llwyddiannus dros ben a chystadlu brwd ar ddiwrnod ein Mabolgampau eleni. Da iawn i bawb a wnaeth gymryd rhan ac yn bwysicach oll da iawn am gefnogi eich gilydd – rydym yn falch iawn o bob un ohonoch! Diolch o galon i’r teuluoedd a ddaeth i’n cefnogi a diolch hefyd i Gymdeithas Ffrindiau’r Ysgol am drefnu’r raffl.

Llongyfarchiadau enfawr i Lys Dewi am gipio’r cwpan eleni! Ardderchog wir!