PC Ian yn ymweld â disgyblion blwyddyn 6 Ysgol Bro Siôn Cwilt

Disgyblion blwyddyn 6 yn trafod testun aeddfed dros ben.

gan Donna Wyn Thomas

Braf oedd croesawu PC Ian i’r ysgol unwaith eto. Bu disgyblion blwyddyn 6 yn ffodus o gael sesiwn codi ymwybyddiaeth ar destun anodd iawn o gamfanteisio ar blant, sut i gadw’n ddiogel a ble i fynd am gymorth. Da iawn blant am drafod mor aeddfed ac am ofyn cwestiynau synhwyrol dros ben. Diolch i PC Ian am rannu’r wybodaeth gyda ni.