Paned, Cacen a Chlonc ym Mro Siôn Cwilt

Ysgol Bro Siôn Cwilt yn croesawu’r rhieni a’r gymuned i ddathlu Gŵyl Foel Gilie

gan Donna Wyn Thomas

Ar ddydd Mawrth y 10fed o Hydref, cynhaliwyd prynhawn coffi cymunedol fel rhan o ddathliadau Gŵyl Foel Gilie 2023.Braf oedd gweld y neuadd yn orlawn. Bu’r disgyblion yn estyn croeso cynnes i’r rhieni a ffrindiau’r ysgol. Agorwyd y prynhawn gan Caio, Isaac, Onw a Samantha. Yna fe wnaethon ni ganu nifer o ganeuon i’r gynulleidfa, caneuon fel Cân Hawliau a Chalon Lân.

Bu Osian ac Oliver yn canu ar eu pennau eu hunain. Dywedodd Osian ‘Fe wnes i fwynhau canu ond roeddwn i ychydig bach yn nerfus’.

Yn dilyn y canu, gwnaeth pawb fwynhau paned, cacen (neu ddwy!!) a chlonc. Roedd y cacennau yn flasus iawn.

Roedd pawb wedi mwynhau’r prynhawn.

Diolch i’r rhai a fu’n brysur yn trefnu’r wythnos.

Gan Caio ac Isaac.