Gweithgor y 4 Llan

Grwp lleol yn ceisio canfod ateb i’r argyfwng tai lleol.

Gareth Ioan
gan Gareth Ioan
Pontgarreg-2

Rhan o’r gynulleidfa dda a ddaeth i noson Gweithgor y 4 Llan yn Neuadd Pontgarreg.

‘Tai lleol i bobl lleol’ yw’r slogan poblogaidd. Ond sut ydych chi’n dod â hynny’n realiti? Dyna mae criw Gweithgor y 4 Llan wedi bod yn ei drafod yn y ystod y misoedd diwethaf.

Daeth cynulleidfa dda ynghyd i Neuadd Pontagarreg ar nos Fercher, 15 Tachwedd, i glywed am rhai opsiynau posib. Soniodd Jo Rees, yr Hwylusydd Tai Gwledig lleol, am rai engreifftiau o bentrefi’n cymryd yr awenau drwy sefydlu Ymddiriedolaethau Tir Cymunedol (CLTs). A chafwyd cyflwyniad manwl gan Jonathan Hughes o fudiad Cwmpas ar sut i fynd ati i sefydlu corff lleol i hwyluso datblygu cartrefi’n lleol ar delerau’r gymuned.

Mae Gweithgor y 4 Llan yn cynnwys cynghorwyr o gynghorau cymuned Llanarth, Llanllwchaearn, Llandyslio a Llangrannog (ardal Cwilt360), ynghyd ag unigolion eraill sydd â diddordeb. Mae Gweithgor y 4 Llan newydd ennill grant dan gynllun ‘Perthyn’ Llywodraeth Cymru i wneud mwy o ymchwil i’r maes yn lleol ac i sefydlu ei hun yn gorff cyfansoddiadol.

Os oes diddordeb gyda chi i gynorthwyo’r grwp, cysylltwch â Gareth Ioan neu Wayne Lewis. Mae holiadur ar-lein yn cael ei ddosbarthu’n lleol ar hyn o bryd. Croeso mawr i chi roi eich manylion cyswllt ar hwnnw.

Wedi cychwyn yng Nghaerwedros a Phontgarreg, gobeithir cynnal digwyddiadau nesaf Gweithgor y 4 Llan yn Nhalgarreg a Llanarth. Tai lleol i bobl lleol – hwnna yw e!