Nyth Cacwn yn dod i Dalgarreg!

Ymweliad gan un o sêr y rhaglen i Ysgol Talgarreg i baratoi at y Sioe Nadolig

gan Cerys Lloyd
IMG-20231113-WA0002

Henri Nyth Cacwn a disgyblion dosbarth Sarnicol

I’r rhai nad sy’n gyfarwydd â’r rhaglen deledu hon, cyfres gomedi sefyllfa Gymraeg yw Nyth Cacwn cafodd ei darlledu gyntaf ar S4C ym 1989. Mae’r gyfres wedi’i gosod ar fferm ddychmygol o’r un enw yng ngorllewin Cymru, ac mae’n dilyn hynt a helynt Wiliam (y gwas fferm newydd – Ifan Gruffydd), Gwyneth (y ffarmwraig weddw – Grett Jenkins) a’i merch Delyth (Gwyneth Hopkins).

Disgyblion dosbarth Sarnicol (blwyddyn 3-6) yw awduron Sioe Nadolig Ysgol Talgarreg yn flynyddol ac, eleni, roeddent eisiau cynnwys elfennau o Nyth Cacwn yn y sgript. Yn benodol, pennod 2 ‘Trafferth gyda’r Hwrdd’. Yn y bennod hon, mae Henri (cariad Delyth) – ‘pot blodyn o ddyn’ a oedd yn gweithio yn y banc – yn cael ei gario gan yr hwrdd gwyllt ar draws y clos. Fel y gallwch ddychmygu, cafodd ddisgyblion yr ysgol cefn gwlad hon dipyn o hwyl yn gwylio’r fath olygfa!

Dywedodd Mrs Bethan Morgan-Jenkins, y Brifathrawes, “Mae hi wedi bod yn braf medru cyflwyno Nyth Cacwn i genhedlaeth newydd o ddisgyblion Ysgol Talgarreg, ac mae’r gyfres wedi tanio eu dychymyg ar gyfer y Sioe Nadolig. Cafodd y sgript ei hysgrifennu mewn chwinciad!”

Gan fod Nyth Cacwn yn rhaglen oedd yn cynnwys talentau lleol, gwahoddwyd Henri ei hun, sef Dafydd Aeron, i’r Ysgol i siarad â phlant dosbarth Sarnicol. Cafwyd cyfle i glywed hanesion Dafydd am y broses o ffilmio’r gyfres ac i ofyn cwestiynau am ei yrfa.

“Mae ein diolch yn fawr i Dafydd Aeron am ddod i’r Ysgol. Roedd y plant wedi cyffroi’n lân wrth weld seren o’r teledu yn ein hysgol fach ni”, meddai Mrs Bethan Morgan-Jenkins.

Cynhelir Sioe Nadolig Ysgol Talgarreg yn Neuadd Goffa Talgarreg ar ddydd Gwener y 1af o Ragfyr. Bydd dau berfformiad; un am 1:30 y prynhawn ac un am 6:30 y nos. Codir tâl mynediad wrth y drws, sef £5 i oedolion, a £2 i blant uwchradd. Gareth a Siân Ioan fydd Llywyddion y sioe gyda’r hwyr. Os na fedrwch fynychu’r perfformiadau, bydd hi’n cael ei ffilmio a’r DVDs ar gael i’w harchebu o’r Ysgol.

Bydd hi’n Sioe gwerth ei gweld!