Creu GIFs i’r fro

GIFs o olygfeydd lleol wedi’u creu i’r cyfryngau cymdeithasol gan ddisgyblion yr ardal

gan Cerys Lloyd

Cynhaliwyd gweithdai mewn dros 30 o ysgolion ar hyd a lled Ceredigion gan gwmni Mwydro mewn partneriaeth â Cardi Iaith er mwyn dysgu’r disgyblion sut i greu GIFs – sef sticeri bach sy’n symud – o fannau lleol amlwg. Bwriad y prosiect yw cynyddu cynnwys digidol cyfrwng Cymraeg sydd ar gael ar y cyfryngau cymdeithasol, o dan yr ymgyrch #Hac y Gymraeg.

Dewiswyd y goreuon o Ysgol Bro Siôn Cwilt ac Ysgol Talgarreg i’w troi’n GIFs go iawn – o Gei Newydd i Gei Bach, o Lanon i Landysul.

Yn Ysgol Bro Siôn Cwilt, dewisodd y disgyblion eu hoff leoedd yng Ngheredigion, sef Cei Newydd (Tegan), Llangrannog (Caio), Cei Bach (Isabella), Cwm Silio (Ella), Pendinas (Mabli), Aberaeron (Lyvie), Mydroilyn (Jacob), Llanon (Samantha) a Llandysul (Imogen). Gweithiodd ddisgyblion blwyddyn 6 gyda’i gilydd i gyd-greu un i’r ysgol.

GIF Cei Newydd gan Tegan oedd ‘GIF y Dydd’ ar ddechrau mis Tachwedd, ac mae wedi ei defnyddio dros 98,000 o weithiau!

Dywedodd Tegan, “Dewisais i Gei Newydd am fy mod i’n byw yma a ‘dw i’n gwario llawer o amser ar y traeth gyda fy nheulu a ffrindiau. Fy hoff beth i wneud yn y môr yw padl-fyrddio gan obeithio gweld ambell ddolffin os ydw i’n lwcus!”

Yn Ysgol Talgarreg, crëwyd GIFs o Y Bwthyn (Prys), Afon Clettwr (Marged) a Thafarn Glan-yr-afon (Lewis).

Dywedodd Lewis, “Nes i ddewis y dafarn oherwydd bod Hefin a Megan yn gadael, ac rydyn ni wedi cael lot o sbort ‘na yn nigwyddiadau’r Ysgol.”

Mae pob un o’r GIFs hyn ar gael i’w defnyddio ar yr holl gyfryngau cymdeithasol. Os am gyfarwyddiadau am sut mae eu cynnwys nhw, cliciwch yma.