O Nanternis i’r India

Eglwys yn Mizoram yn dathlu ar y 15fed o Fawrth

Gwenno Evans
gan Gwenno Evans
Mae’r Eglwys yn Mizoram yn dathlu ar 15fed o Fawrth yn flynyddol ac yn diolch i’r Parch William Williams am sicrhau bod yr Efengyl wedi cyrraedd y rhan hon o’r India.
Cartref-William-Williams

Cartref y Parch William Williams yn Nanternis

Roeddwn yn meddwl ei bod yn werth rhannu’r hanes diddorol hwn am ŵr ifanc a aeth o Nanternis i Ogledd-ddwyrain India fel cenhadwr yn 1887. Mae’r Eglwys yn Mizoram yn dathlu ar y  15fed o Fawrth yn flynyddol ac yn diolch i’r Parch William Williams am sicrhau bod yr Efengyl wedi cyrraedd y rhan hon o’r India. Erbyn heddiw ŵŵmae tua 87% o boblogaeth y dalaith yn Gristnogion.

Ganwyd William Williams ar 11 Chwefror 1859 yn Nanternis, yn fab i Daniel ac Elizabeth Williams.  Cafodd ei addysg gynnar yng Nghapel Neuadd, ger Nanternis o dan fugeiliaeth y Parch. William Lewis. Roedd ei dad yn gapten llong ac yn ddeuddeg oed dilynodd ôl traed ei dad i’r môr a bu yn forwr am bum mlynedd. Mae’n debyg iddo roi’r gorau i fywyd ar y môr ar ôl profi storm enbyd a ddrylliodd ei gwch yn llwyr. Yn 1876 dechreuodd ar brentisiaeth mewn gwaith saer ac o gael amser i ddarllen y Beibl fe ymddiddorodd mewn diwinyddiaeth. Ym 1878 ac yntau yn bedair ar bymtheg oed aeth i Ysgol Ramadeg baratoadol yng Ngeinewydd, ac yna parhaodd gyda’i addysg yn Llandysul. Yn Llandysul, derbyniodd ysgoloriaeth am dymor i fynd  i Goleg Prifysgol Cymru Aberystwyth. Ar ôl cwblhau’r tymor, symudodd i Lundain i ymuno â Sefydliad Hyfforddiant Cenhadol Dwyrain Llundain gan raddio yn 27 oed.

Derbyniodd William Williams wahoddiad fel gweinidog y Methodistiaid Calfinaidd yn Ne Cymru. Ond cyn iddo gwblhau blwyddyn o wasanaeth bugeiliol cafodd gyfle i ymuno â gwaith cenhadol ym Mryniau Casia yng Ngogledd-ddwyrain India o dan Genhadaeth Dramor Fethodistaidd Galfinaidd Cymru. Cychwynnodd am India ar 28 Medi 1887 ym mhorthladd Lerpwl, yng nghwmni saith cenhadwr arall. Roedd yn gweithio ymhlith pobl Casia yn Shella. Roedd yn efengylydd selog, yn dysgu iaith Casia, yn cyfansoddi emynau yn yr iaith, roedd yn amlwg yn ganwr eitha’ da, a chai ei alw gan y brodorion fel “canwr melys Cymru.” Er mai ymhlith pobl Casia y bu Williams yn genhadwr, ei waith mwyaf nodedig yn hanesyddol oedd ei ymweliad â Mizoram. Nid oedd unrhyw dramorwr erioed wedi ymweld â’r Mizos a thrwy ymdrech Williams y cyrhaeddodd yr efengyl i glustiau’r bobl.  Mae’r eglwys yn Mizoram yn dathlu dyfodiad yr Efengyl yn flynyddol ar y 15fed o Fawrth ac enw’r cenhadwr ifanc o Nanternis yn dal ar wefusau’r Cristnogion ym Mizoram hyd heddi’. Gwnaeth waith da yn ystod cyfnod cymharol fyr o bum mlynedd y bu yn genhadwr yn y maes. Un mentrus ac anturus ydoedd a welai gyfle di-ben-draw yn y wlad i efengylu a chenhadu. Caiff William Williams ei gofio a’i barchu am ei waith cenhadol o 1887 hyd ei farwoleth o’r teiffoid yn 1892 ac yntau ond yn 33 oed.