O Gaerwedros i’r Wcráin

Beth gellir ei wneud gyda sgarff dwy filltir a hanner o hyd?

Gwenno Evans
gan Gwenno Evans
Merched y Wawr y Bryniau wedi bod yn creu eitemau defnyddiol i'w hanfon i'r Wcrain.

Bu Merched y Wawr Cangen y Bryniau fel llawer cangen arall yn brysur yn gwau’r sgarff ar gyfer ffilm y Rhanbarth, ‘Gwlân, Gwlân, Gwlana’ yn Eisteddfod Ceredigion.

Ond beth gellir ei wneud gyda  sgarff dwy filltir a hanner o hyd?

Penderfynwyd ei datgymalu gan greu eitemau defnyddiol i’w hanfon i bobl yr Wcráin.

Daeth y merched ynghyd i ddechrau’r dasg o greu blancedi, sgarffiau, capiau ac ambell i snŵd.  Mae’n dda gweld bod ein cyfraniad bach ni erbyn hyn wedi cyrraedd yr Wcráin.

Diolch i’r merched am eu gwaith gwau a gwnïo, diolch hefyd i swyddogion y Rhanbarth am drefnu’r cyfan a diolch i Jayne a Rob am eu cludo yn ddiogel i’r Wcráin.