Gwydion ar Garlam yn Ras Siôn Cwilt

Canlyniadau Ras Siôn Cwilt, Gŵyl Talgarreg, yn llawn

gan Cerys Lloyd
Ras-Sion-Cwilt-2

Gwydion yn derbyn ei wobr wrth Bethan Sturrock, Llywydd Gŵyl Talgarreg

Gwydion-rhedeg-1

Gwydion ar y blaen

Ras-Cynradd-Merched-1

Ras Cynradd i Fercher: Marged (1af) a Martha (2il)

Ras-Cynradd-Bechgyn-2

Ras Cynradd i Fechgyn: Steffan (1af), Elis (2il) a Tomos (3ydd)

Enillydd Tarian Her Megan Jones, Gwylfa (gynt), am yr amser cyflymaf yn Ras Siôn Cwilt oedd Gwydion Dafis, Blaenglowon Fach.

Mae’n rhaid bod rhywbeth arbennig yn y dŵr ym Mlaenglowon gan i’w fam, ei dad, a’i chwaer ennill eu categorïau hwythau hefyd – da iawn, wir!

Bu 18 oedolyn yn rhedeg ras dwy filltir o bellter o gae Ysgol Talgarreg, lawr heibio’r dafarn, trwy glôs Ffarm ac ar hyd lôn Rhandir, trwy’r caeau i glôs Clettwr ac i fyny’r lôn serth i fynd heibio Pensarn ac yna i lawr rhiw Esger i orffen yng nghae’r ysgol. Tipyn o her!

Dyma’r canlyniadau ac amserau:

Uwchradd (o dan 17 oed): Merched

  • Cydradd 1af: Alys ac Elin (23:40)

Uwchradd (o dan 17 oed): Bechgyn

  • 1af: Gwydion (13:45)
  • 2il: Ifan (14:24)
  • 3ydd: Llŷr (14:30)

Oedolion (17-40 oed): Menywod

  • 1af: Becky (21:50)

Oedolion (17-40 oed): Dynion

  • 1af: Steffan (19:33)
  • 2il: Carwyn (20:29)
  • 3ydd: Iestyn (21:15)

Veteran (dros 40 oed): Menywod

  • 1af: Heledd (19:25)
  • 2il: Julie (29:11)

Veteran (dros 40 oed): Dynion

  • 1af: Hywel (17:02)
  • 2il: Eric (17:29)
  • 3ydd: Kelvin (20:18)

Roedd ras o tua milltir ar gyfer plant oed cynradd (bl. 2 i 6), yn ogystal. Bu 24 o blant yn rhedeg, a dyma’r canlyniadau:

Cynradd: Merched

  • 1af: Marged (7:55)
  • 2il: Martha (8:08)
  • 3ydd: Manon a Hawys (8:43)

Cynradd: Bechgyn

  • 1af: Steffan (7:12)
  • 2il: Elis (7:45)
  • 3ydd: Tomos (8:04)