Gŵyl Talgarreg yn llwyddiant mawr!

Carnifal, Mabolgampau, Ras Siôn Cwilt, Rownderi, Bwyd… a joio!

gan Cerys Lloyd
Poster
354557801_233945482831560

Carnifal: O dan 2 oed

354418185_938173287472657

Carnifal: O dan 2 oed (1af, 2il a 3ydd)

354139175_804123021254311

Carnifal: Meithrin (2-3 oed)

354228210_1233676650676190

Carnifal: Derbyn

354075710_2631912450290317

Carnifal: Blwyddyn 1 a 2

354297234_287138143713245

Carnifal: Bl. 3 a 4

354765048_285187270740288

Carnifal: Bl. 5 a 6

354076580_622366816540757

Carnifal: Oedolion

354184439_947786679669617

Carnifal: Pâr

354249977_671962881419517

Carnifal: Cystadleuaeth y Pencampwyr

355060696_221683417450112

Carnifal: Gwenlli, Pencampwr y Carnifal

354557802_1291209068269316

Bethan Sturrock, Llywydd a Beirniad y Dydd, yn derbyn rhodd o ddiolch wrth Tomos, Cadeirydd Cyngor yr Ysgol

354074414_720157096582920

Ras ŵy a llwy i blant Meithrin (2-3 oed)

354184138_827109915109374

Ras Whilber

Rownderi-Plant

Enillwyr y Rownderi i Blant: Tîm y Sŵper Dŵpers

Rownderi-Oedolion

Enillwyr y Rownderi i Oedolion

Gwobrau

Y Gwobrau

Ar y cyntaf o Orffennaf, daeth torf ynghyd ar gae Ysgol Talgarreg i fwynhau’r Carnifal, Mabolgampau, Ras Siôn Cwilt a’r Rownderi.

Cafwyd gwledd i’r llygad yn y carnifal wrth i’r cylch lenwi â gwisgoedd o bob lliw a llun, a syniadau penigamp. Swydd Llywydd a Beirniad y dydd, Bethan Sturrock, oedd penderfynu ar yr enillwyr, a dyma bencampwr pob categori:

dan 2 oed: Gwenlli (hen fenyw)

Meithrin (2-3 oed): Tudor (môr-leidr Clettwr)

Derbyn: Jack (Willy Wonka)

Bl. 1 a 2: Betsan (Cranogwen)

Bl. 3 a 4: Prys (ailgylchu a lleihau ôl-troed carbon)

Bl. 5 a 6: Eli-May (llwyddiant Ysgol Talgarreg yn Eisteddfod yr Urdd, Llanymddyfri)

Oedolion: Siôn (môr-leidr)

Pâr: Neli a Non (cymeriadau Matilda)

Gwenlli Ioan gipiodd cwpan Her David a Liz Woolley, Llawrcwrt, am fod yn bencampwr terfynol y carnifal.

Rhaid oedd newid yn gyflym i ddillad ymarfer corff ar gyfer y mabolgampau. Roedd cystadlu brwd yn y rasys rhedeg, wy a llwy a whilber – o’r plant o dan 2 oed hyd at y pensiynwyr. Wedi hynny, daeth y rasys trawsgwlad cynradd a Ras Siôn Cwilt i oedolion. Llongyfarchiadau i Gwydion, Marged a Steffan – darllenwch hanes y rasys hir yma.

Cafwyd lot o sbort a sbri yn y gemau rownderi! Aeth y cwpan i’r tîm rownderi plant buddugol i dîm y Sŵper Dŵpers, a’r cwpan i’r tîm rownderi i oedolion i dîm Iestyn.

Llongyfarchiadau i’r holl enillwyr, a diolch i bawb am gymryd rhan a chefnogi, ac i’r gymuned gyfan am dynnu ynghyd i gynorthwyo ar y diwrnod.

Diolch yn fawr i bwyllgorau Cymdeithas Rhieni ac Athrawon Ysgol Talgarreg ac Adran Bentre’ Talgarreg am drefnu’r dydd. Diolch hefyd i Merched y Wawr Talgarreg am y lluniaeth arbennig yn y prynhawn, i bwyllgor Neuadd Talgarreg am y BBQ gyda’r hwyr, ac i Golwg y Môr am yr hufen iâ blasus.